Sut ydw i'n gwneud cais am feddyginiaeth arall?

I wneud cais am feddyginiaeth arall, h.y. meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn amlroddadwy neu efallai bod y presgripsiwn amlroddadwy wedi dod i ben:

Sylwer – Mae’r dewis hwn ond ar gael os yw’ch meddygfa wedi’i halluogi.
  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.
  2. Dewiswch Fy Mhresgripsiynau:

  3. O dan Gwneud Cais am Bresgripsiynau Newydd, ticiwch Hoffwn wneud cais am bresgripsiwn amlroddadwy sydd wedi dod i ben, neu feddyginiaeth arall.
  4. Rhowch eich cais:

  5. Dewiswch Gwneud Cais i gyflwyno’ch cais.
  6. Bydd y neges Cadarnhewch Eich Cais yn ymddangos, a bydd yn cynnwys manylion eich cais. Dewiswch Cadarnhau i gadarnhau eich cais.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.